P-05-930 Deiseb ar gyfer Meddygfa Glanyfferi

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ferryside Village Forum, ar ôl casglu cyfanswm o 117 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym yn teimlo'n gryf iawn ei bod yn hanfodol cadw meddygfa Glanyfferi.

 

Mae arnom angen doctor, nyrs a fferyllfa i gynnig y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar bentref lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion dros 50 oed.

 

Mae'n rhan greiddiol o Ganolfan Gymunedol Calon y Fferi, sy'n hygyrch iawn. Mae ymweld â'r ganolfan yn gyfle i gwrdd â phobl ac mae'n lliniaru teimladau o unigrwydd ac unigedd. Mae'n helpu i gynnal iechyd corfforol ac iechyd meddwl ar lefel leol. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, ac mae hynny'n golygu ei bod yn anodd i bobl sydd â phroblemau wrth symud fynd i ganolfannau meddygol eraill.

 

Mae'r rhan fwyaf o bobl am aros yn eu cartref eu hunain wrth iddynt heneiddio, ac mae'n bosibl bod hyn yn fwy cynaliadwy ac yn gwneud mwy o synnwyr ariannol pan fo gwasanaethau a chwmniaeth heb fod yn bell. Byddai'n gam am yn ô li orfodi'r holl drigolion i adael y pentref am driniaeth.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru